About this role
Hospitality Sales Coordinator ( Fixed Term, until 30 June 2027)
The Hospitality Sales Coordinator plays a key support and coordination role within the Hospitality Sales team, managing the processing and fulfilment of hospitality packages from the moment they have been sold by the team through to event day.
The role coordinates catering and hospitality requirements for clients attending WRU international home games and third-party events such as concerts and other sporting events at the Principality Stadium.
You will be working closely with internal teams and suppliers to ensure a high-quality guest experience. In addition to hospitality coordination support, you will also be involved in direct selling activities especially during periods of peak demands.
Salary: £30,000 per annum (pro rata)
Contract: Fixed Term, until 30 June 2027
Closing Date: 18 October 2026
The Person
· Previous experience in hospitality sales, event management, or customer service within a large-scale venue or stadium environment would be beneficial.
· Previous experience in administration, telephone handling, invoicing.
· Strong customer service skills and ability to manage client relationships.
· Ability to support sales initiatives and upselling opportunities in a fast paced, customer focused environment.
· Strong communication skills, both verbal and written.
· Excellent IT skills, specifically Microsoft package.
· Ability to manage multiple tasks and meet deadlines.
· Ability to work independently and as part of a team.
· Ability to communicate and work through the medium of Welsh is desirable.
The Role
Hospitality Sales and Catering Coordination:
· Serve as the event day lead for specified events to liaise between Hospitality Sales and the Stadium Food and Beverage Partner with regards to catering requirements across the stadium for main bowl events.
· Working with the Finance team on fulfilment of invoicing to clients for hospitality packages that have been sold by the Hospitality Sales team.
· Working with external suppliers and catering partners on the theming, look and feel of an event.
· Overseeing external supplier coordination for all audio-visual requirements.
· Outbound direct sales activities to support the Hospitality sales team members during periods of peak demand.
· Supporting the team as required to drive additional spend of wines and additional food items in advance of event day and on event days.
Hospitality Client Management:
· Supporting Hospitality Sales team to deliver an excellent standard of hospitality to long term and event by event clients.
· Respond to and manage feedback from hospitality clients.
· Lead on the distribution of hospitality room passes via the PSE VIP Tickets App.
· Be the key point of contact in certain hospitality spaces on event day, ensuring client expectations and requirements are met.
· Any other duties that support the broader Commercial sales team as required.
WRU Requirements
The WRU require that individuals are proficient in IT skills, specifically Microsoft packages. Excellent written and verbal communications are essential, along with the ability to build strong relationships with internal and external stakeholders.
Ability to communicate through the medium of Welsh and a Valid UK Driver's License is desirable.
The Perks
As a permanent member of the WRU Group, you will have access to our full range of employee benefits, including:
- Salary Sacrifice Pension (5% employee contribution, matched by WRU)
- Life assurance scheme
- WRU Group Ticket Allocation (in line with ticketing policy)
- One additional paid day off (birthday leave)
- Employee assistance programme
- Team Tactics – hybrid working arrangements
- Free stadium parking and gym
- WRU Group store and tour discounts
- WRU Group partnership offers
- Eye Care Voucher Scheme
- Cycle to Work Scheme
Our Values
The WRU Group are committed to developing a culture whereby all employees are equally valued and respected. Our aims, together with our vision and mission, are underpinned by our core values and beliefs which embrace: Integrity, Excellence, Success, Courage, Family & Humour.
Inclusion At The WRU
The WRU Group are committed to building diverse, high-performing and engaged teams across Welsh Rugby. We are ambitious about providing a people first culture where everyone can belong, be heard and respected. We are happy to talk to you about our Crys I Bawb EDI Strategy (2024-2029) and you can also read more about our commitment in our Equality, Diversity and Inclusion Policy.
Diversity monitoring
We know that we deliver better services when our workforce reflects the full range of backgrounds and experiences in the society we serve.
To continue to do this we need your help in filling out a short monitoring form.
None of the information you provide will be visible as part of your application. It will only be used anonymously to monitor the inclusivity of our selection processes.
You can select 'prefer not to say’ if you would rather not answer any question.
---
Cydlynydd Gwerthiannau Lletygarwch (Cyfnod Penodol, tan 30 Mehefin 2027)
Mae'r Cydlynydd Gwerthiannau Lletygarwch yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi a chydlynu o fewn y tîm Gwerthiannau Lletygarwch, gan reoli prosesu a chyflawni pecynnau lletygarwch o'r eiliad y cânt eu gwerthu gan y tîm, hyd at ddiwrnod y digwyddiad. Mae'r rôl yn cydlynu gofynion arlwyo a lletygarwch ar gyfer cleientiaid sy'n mynychu gemau cartref rhyngwladol URC a digwyddiadau trydydd parti fel cyngherddau a digwyddiadau chwaraeon eraill yn Stadiwm Principality. Byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau mewnol a chyflenwyr i sicrhau profiad o ansawdd uchel i westeion. Yn ogystal â chymorth cydlynu lletygarwch, byddwch hefyd yn ymwneud â gweithgareddau gwerthu uniongyrchol yn enwedig yn ystod cyfnodau o alw brig.
£30,000 y flwyddyn (pro rata)
Cyfnod Penodol, tan 30 Mehefin 2027
Dyddiad Cau: 18 Hydref 2026
Y PERSON
· Byddai profiad blaenorol mewn gwerthiannau lletygarwch, rheoli digwyddiadau, neu wasanaeth cwsmeriaid o fewn amgylchedd lleoliad mawr neu stadiwm yn fanteisiol.
· Profiad blaenorol mewn gweinyddiaeth, trin galwadau ffôn, anfonebu.
· Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf a'r gallu i reoli perthnasoedd â chleientiaid.
· Y gallu i gefnogi mentrau gwerthu a chyfleoedd uwchwerthu mewn amgylchedd cyflym sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf.
· Sgiliau TG rhagorol, yn enwedig pecyn Microsoft.
· Y gallu i reoli nifer o dasgau a chwrdd â therfynau amser.
· Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
Y RÔL
Cydlynu Gwerthiannau Lletygarwch ac Arlwyo:
· Gwasanaethu fel arweinydd diwrnod digwyddiadau ar gyfer digwyddiadau penodol i gysylltu rhwng Gwerthiannau Lletygarwch a Phartner Bwyd a Diod y Stadiwm ynghylch gofynion arlwyo ar draws y stadiwm ar gyfer prif ddigwyddiadau'r chwaraefa.
· Gweithio gyda'r Tîm Cyllid ar gyflawni anfonebu i gleientiaid ar gyfer pecynnau lletygarwch sydd wedi'u gwerthu gan y tîm Gwerthiannau Lletygarwch.
· Gweithio gyda chyflenwyr allanol a phartneriaid arlwyo ar thema, edrychiad a naws digwyddiadau.
· Goruchwylio cydlynu cyflenwyr allanol ar gyfer yr holl ofynion clyweledol.
· Gweithgareddau gwerthiannau uniongyrchol allan i gefnogi aelodau'r tîm Gwerthiannau Lletygarwch yn ystod cyfnodau o alw brig.
· Cefnogi'r tîm yn ôl yr angen i ysgogi gwariant ychwanegol ar winoedd ac eitemau bwyd ychwanegol cyn diwrnod y digwyddiad ac ar ddiwrnodau digwyddiadau.
Rheoli Cleientiaid Lletygarwch:
· Cefnogi'r tîm Gwerthiannau Lletygarwch i ddarparu lletygarwch o safon ragorol i gleientiaid hirdymor a fesul digwyddiad.
· Ymateb i a rheoli adborth gan gleientiaid lletygarwch.
· Arwain ar ddosbarthu pasys ystafelloedd lletygarwch drwy'r ap PSE VIP Tickets.
· Bod y prif bwynt cyswllt mewn mannau lletygarwch penodol ar ddiwrnod y digwyddiad, gan sicrhau bod disgwyliadau ac anghenion cleientiaid yn cael eu bodloni.
· Unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n cefnogi'r Tîm Gwerthiannau Masnachol ehangach yn ôl yr angen.
GOFYNION URC
Mae URC yn mynnu bod gan unigolion sgiliau TG, yn benodol pecynnau Microsoft. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i feithrin perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a Thrwydded Yrru Ddilys y DU yn ddymunol. Mae'r rôl hon yn amodol ar wiriad DBS sylfaenol/manwl.
Y MANTEISION
Fel aelod parhaol o Grŵp URC, bydd gennych fynediad at ein hystod lawn o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:
- Pensiwn Aberth Cyflog (cyfraniad cyflogai o 5%,cyfraniad cyfatebol gan URC)
- Cynllun yswiriant bywyd
- Dyraniad Tocyn Grŵp URC (yn unol â Pholisi Tocynnau)
- Un diwrnod ychwanegol o wyliau tâl (gwyliau pen-blwydd)
- Rhaglen cymorth i weithwyr
- Tactegau Tîm – trefniadau gweithio hybrid
- Parcio stadiwm a champfa am
- Gostyngiadau siop a theithiau Grŵp URC
- Cynigion partneriaeth Grŵp URC
- Cynllun Talebau Gofal Llygaid
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Gostyngiadau Gwestai'r Celtic Collection
Ein Gwerthoedd
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant lle mae pob gweithiwr yn cael ei werthfawrogi a'i barchu'n gyfartal. Mae ein nodau, ynghyd â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth, wedi’u tanategu gan ein gwerthoedd a’n credoau craidd sy’n croesawu: Uniondeb, Rhagoriaeth, Llwyddiant, Dewrder, Teulu a Hiwmor.
Cynhwysiant yn URC
Mae Grŵp URC wedi ymrwymo i ddarparu Jyrsi i Bawb. Mae hyn yn cynnwys y bobl sy'n gweithio i ni a gyda ni. Rydym yn uchelgeisiol ynglŷn â darparu diwylliant sy'n rhoi pobl yn gyntaf, lle gall pawb fod yn perthyn a chael eu clywed a’u parchu. Rydym yn hapus i siarad â chi am ein Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2023-2028) a gallwch hefyd ddarllen rhagor am ein hymrwymiad yn ein Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Monitro amrywiaeth
Gwyddom ein bod yn darparu gwasanaethau gwell pan fo ein gweithlu’n adlewyrchu’r ystod lawn o gefndiroedd a phrofiadau yn y gymdeithas a wasanaethwn. Er mwyn parhau i wneud hyn mae angen eich help arnom i lenwi ffurflen fonitro fer. Ni fydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu yn weladwy fel rhan o'ch cais. Dim ond i fonitro cynwysoldeb ein prosesau dethol yn ddienw y caiff ei defnyddio. Gallwch ddewis ‘gwell gennyf beidio â dweud’ os byddai’n well gennych beidio ag ateb unrhyw gwestiwn.